Croeso i wefan newydd Heneiddio’n Dda Ynys Môn a gobeithiwn y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol ac yn llawn gwybodaeth, er ei bod yn dal i gael ei datblygu mae’n cynnwys nifer fawr o erthyglau, lluniau a chysylltiadau ayyb. Ein nod yn y pen draw fydd i arddangos newyddion y prosiect Heneiddio’n Dda Ynys Môn i gyd yn ogystal â bwletinau unigryw canolfan wrth ganolfan.
Mae hefyd yn cynnwys adran unigryw i’n aelodau, mae’r cofrestru yn rhad ac am ddim, fe fydd yn cynnwys adrannau fel fforwm ar-lein ayb na fydd ar gael i eraill nad ydynt yn aelodau. Fe fyddwn yn rhedeg cyrsiau o fewn y tri canolfan ar sut i ddefnyddio’r wefan. Fe fydd Delyth, Sioned a Tony yn eich hysbysu gyda’r manylion.